Cyflwr Ffyrdd Cymru

 

Ymateb Cyngor Caerdydd – 27 Ebrill 2018

 

New CCC Logo

 

C1: Cyflwr ffyrdd Cymru ar hyn o bryd ac a ydy dull ariannu a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw ffyrdd lleol, cefnffyrdd a’r rhwydwaith traffyrdd yng Nghymru yn effeithiol, ac wedi ei reoli yn y fath fodd i sicrhau cyn lleied â phosibl o amharu ar ddefnyddwyr ffyrdd ac yn rhoi gwerth am arian;

·         Mae dyraniadau cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Gaerdydd ar gyfer cynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd lleol wedi eu gosod ar sail flynyddol. Petai dyraniadau cyllid tymor hirach yn cael eu gweithredu, gallent ddarparu:

o   Mwy o sicrwydd a galluogi Cynghorau i sefydlu contractau tymor hirach gyda chyflenwyr

o   Sicrhau cyfraddau mwy manteisiol gan gyflenwyr

o   Cynllunio’n well at y dyfodol

o   Creu proffiliau buddsoddi ac amserlenni gwaith tymor hirach.

·         Tra bo croeso mawr i raglenni megis Menter Benthyca Llywodraeth Leol (2012-14) a’r Gronfa Ailwampio Ffyrdd Awdurdodau Lleol (2018) a'r cyllid ychwanegol a ddaeth yn eu sgil, gallai'r cyllid ychwanegol hwn ddilyn system fwy llyfn dros yr hir dymor, a byddai hyn yn gymorth i gyflawni'r uchod. Mae cynnydd sydyn mewn cyllid yn creu pwysau adnoddau ar dimau sy’n datblygu’r amserlenni cynnal a chadw a’r contractwyr sy’n cyflawni’r gwaith.

 

C2: A ydy projectau gwella mawr ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, cefnffyrdd a thraffyrdd wedi eu blaenoriaethu, eu cyllido, eu cynllunio a’u gweithredu mewn ffordd effeithiol ac yn rhoi gwerth am arian.Mae materion perthnasol yn cynnwys gweithredu’r dull o gynnwys contractwyr yn gynnar a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru.

 

C3: Ydy Cymru yn dilyn dull cynaliadwy o gynnal a gwella ei rhwydwaith ffyrdd yng nghyd-destun deddfwriaeth allweddol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

·         Mae dull cost oes gyfan o gynnal y rhwydwaith ffyrdd lleol ar waith gan y cyngor, h.y. Gwneir asesiad peirianegol ar y rhwydwaith cyfan er mwyn seilio'r dewis o gynlluniau i'w gweithredu ar sail cyflwr. Mae nifer o dechnegau cynnal a chadw wedi eu defnyddio er mwyn gwneud yn fawr o bob buddsoddiad (yn cynnwys gwaith ataliol, megis trin arwynebau, gosod arwynebau newydd ac ailadeiladu) a'r rhain yn cefnogi rhai o'r egwyddorion sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Hefyd, mae teithio llesol yn un o'r pethau a ystyrir yn y broses dethol a datblygu cynlluniau.